
Hazel Court - Bwyty Terrace
Un o nodweddion mwyaf cyffrous Hazel Court yw'r bwyty Terrace trwyddedig.

Mae'r Terrace yn cynnig awyrgylch deniadol i fwyta ynddo, ac mae ar agor saith diwrnod yr wythnos, o 9.00yb i 4.00yh.
Fel y mae'r enw'n awgrymu, yn ystod misoedd yr haf, mae'n bosib i gwsmeriaid eistedd tu allan i fwyta - ar y TERAS! (yn dibynnu ar y tywydd, wrth gwrs!).
Mae ein tîm arlwyo yn darparu brecwast a chinio blasus, yn ogystal â lluniaeth ysgafn drwy'r dydd.
Mae'r prisiau'n rhesymol, ac mae bwydlenni'n newid i adlewyrchu'r tymhorau, a dewis y cwsmeriaid.
Defnyddir cynnyrch lleol a rhanbarthol, pryd bynnag fo'n bosib, a phan ar gael.
Bon Appetit!
|